🍂 Helo Hydref! / Hello Autumn!🍂
- cynhyrchioncymraeg
- Sep 2
- 2 min read
Mae’r tymor newydd yma, ac mae gennym ni bethau cyffroes iawn ar y gweill…
🔧 Newidiadau i’r wefan
Rydym yn rhoi gwedd newydd sbon i’r wefan yr wythnos hon — felly dewch i bori a gweld beth sydd wedi newid!
Mae’r iaith ar y wefan wedi cael diweddariad mawr hefyd: nawr gallwch ddewis rhwng Cymraeg yn unig neu Saesneg yn unig.
Pam? Oherwydd bod mwy a mwy o bobl o du allan i Gymru yn cysylltu â ni — maen nhw’n dwlu ar yr iaith, ond efallai ddim yn siarad Cymraeg eto. Felly, rydym am wneud y profiad yn hygyrch i bawb, tra’n parhau i ddathlu’r Gymraeg yn ei holl ogoniant 💬✨
🛍️ Cynhyrchion newydd
Bydd eitemau newydd yn cyrraedd yn ystod yr hydref, felly cadwch lygad allan!
Rydym wedi bod yn brysur yn paratoi casgliad arbennig ar gyfer Calan Gaeaf — bydd y rhain ar gael yn fuan iawn 👻🎃 Felly dewch i ddathlu tymor yr Hydref gyda ni!!!
A new season is here, and we’ve got some exciting things lined up…
🔧 Website updates
We’re giving the website a fresh new look this week — pop over and see what’s changed!
The language setup has had a complete makeover too: you can now choose either Welsh-only or English-only mode.
Why? Because more and more people from outside Wales have been getting in touch - they’re fascinated by the language, even if they don’t speak it (yet!). So now, everyone can join in the celebration of Welsh, in a way that works for them 💬✨
🛍️ New products
We’ll be adding several new items to the shop this season, so keep an eye out!
We’ve been busy behind the scenes preparing a special Calan Gaeaf collection - those spooky goodies will be available very soon 👻🎃
So come along and celebrate the Autumn season with us!!!